Ymddangosodd bachgen o Ddoc Penfro yn rhaglen CBeebies, Something Special, ynghyd â’r cyflwynydd teledu plant, Justin Fletcher, ar gyfer antur yn yr awyr agored yng Nghanolfan Wyliau Parc Cenedlaethol Bluestone.
Mae gan Delton Williams Spina Bifida, a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Arbennig Portfield yn Hwlffordd.
Aeth Delton a Justin ati i adeiladu cuddfan yng Ngwersyll Smokey, Bluestone, gan fwynhau ymweliad gan Alex a Frodo’r dylluan o Ganolfan Heboga Sir Benfro.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y pennawd newyddion