Menu

Mae bathodynnau glas yn caniatáu i bobl anabl barcio eu cerbydau yn rhad ac am ddim mewn cilfachau parcio i’r anabl ar y stryd.

Mae’r lleoedd hyn wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rheiny sydd â symudedd cyfyngedig.

Mae’r lleoedd parcio ar eu cyfer yn fwy, ac maent yn agosach at gyfleusterau.

Mae rheoliadau yng Nghymru yn caniatáu i fathodynnau glas gael eu rhoi i:

  • Pobl ag anawsterau cerdded difrifol
  • Pobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall
  • Plant y mae’n ofynnol iddynt gael cyfarpar meddygol mawr
  • Cyn-filwyr rhyfel a anafwyd yn ddifrifol
  • Gall rhieni plentyn anabl 2-16 oed wneud cais am fathodyn, a gellir defnyddio’r bathodyn ledled Ewrop

I gael rhagor o wybodaeth am fathodynnau glas, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551

Internet Explorer users must scroll down on the website