Menu

Mae bathodynnau glas yn caniatáu i bobl anabl barcio eu cerbydau yn rhad ac am ddim mewn cilfachau parcio i’r anabl ar y stryd. Mae’r lleoedd hyn wedi’u cynllunio’n benodol i roi mwy o le i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rheiny sydd â symudedd cyfyngedig, a hynny’n agosach at gyfleusterau. Gellir hefyd ddefnyddio bathodynnau glas mewn rhai meysydd parcio, ond gofalwch ddarllen yr arwyddion gan y gallai fod yn ofynnol i chi dalu.

Mae rheoliadau yng Nghymru yn caniatáu i fathodynnau glas gael eu rhoi i:

  • Pobl ag anawsterau cerdded difrifol
  • Pobl ag anabledd difrifol yn eu breichiau
  • Pobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall
  • Plant o dan dair oed y mae’n rhaid iddynt gael cyfarpar meddygol swmpus gyda nhw, neu y gallai fod yn ofynnol iddynt gael mynediad i gerbydau er mwyn cael triniaeth frys mewn ysbyty
  • Cyn-filwyr rhyfel sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol ac sy’n dod o fewn tariffau 1-8 o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Gall rhieni plentyn anabl 2-16 oed wneud cais am fathodyn ar ran eu plentyn. Gellir defnyddio’r bathodyn yn unrhyw le yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn unrhyw gerbyd y mae’r unigolyn anabl yn teithio ynddo, pa un ai’r unigolyn anabl yw’r gyrrwr ai peidio.

I gael rhagor o wybodaeth am fathodynnau glas, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551 neu galwch heibio un o bum canolfan gwasanaeth cwsmeriaid y Cyngor, a hynny rhwng 9:15am ac 1pm neu 2pm a 4:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Internet Explorer users must scroll down on the website