Menu

Roedd tri aelod o Glwb Bowlwyr Anabl Sir Benfro, sef Simon Eaton, John Ellis a James Tyler yn ddigon ffodus i gael eu dewis ar gyfer tîm Cymru, ochr yn ochr â naw o fowlwyr o Chameleons Caerdydd. Cystadlodd yr athletwyr yn y Gyfres Ryngwladol Bowlio Dan Do Anableddau Dysgu a gynhaliwyd yn Falkirk yn yr Alban rhwng 4 a 6 Mehefin 2019. Roedd y bowlwyr mewn categorïau yn ôl eu gallu (L1, L2 neu L3). Byddai’r genedl fuddugol yn mynd â Chwpan Munro adref.

Yno’n annog tîm Cymru oedd y Capten, Alan Beech, a gwnaethant chwarae’n ddewr ar eu pen eu hunain, mewn parau ac mewn grwpiau o dri i ennill y wobr Efydd. Aeth yr Alban â’r wobr arian ac enillodd Lloegr y wobr aur a’r cwpan. Cafodd y triawd o Sir Benfro gymorth ar y lawnt fowlio gan eu hyfforddwyr, sef Madeline Roberts, Steve ac Olwyn Whitmore (PDBC), a Phrif Hyfforddwr Cymru, Barry Jenkins (Chameleons Caerdydd)

Cliciwch yma i ddarllen rhagor am yr erthygl newyddion

Internet Explorer users must scroll down on the website