Cawl Cymunedol mawr er mwyn lansio Banc Amser Arberth
Mae menter newydd sy’n cydnabod gwirfoddolwyr niferus Arberth yn dechrau ennyn cefnogaeth.
Bydd Cawl Cymunedol mawr yn cael ei weini am ddim yn Neuadd y Frenhines ddydd Mercher yma (6 Tachwedd) i lansio Banc Amser swyddogol Arberth.
Bydd Neuadd y Frenhines, PAVS, Banc Bwyd Sir Benfro, ac Oergell Gymunedol Arberth yn dod ynghyd ar gyfer y digwyddiad.
Cynllun cymunedol rhad ac am ddim yw Banc Amser Arberth, ac rydych yn cyfrannu trwy ddefnyddio amser yn hytrach nac arian.
Am bob awr y mae person yn ei roi i weithgaredd bancio amser – fel helpu cymydog neu ddysgu pobl sut i wau – byddant yn derbyn un credyd amser.
Yna, cewch gyfnewid y credydau am amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a hamdden.
Bydd y cawl – a fydd ar gael o 1pm ddydd Mercher – yn cael ei goginio gan ddefnyddio bwyd dros ben o’r ardal leol.
Bydd gan fudiadau gwirfoddol yr ardal stondinau yn Neuadd y Frenhines hefyd er mwyn dangos yr hyn y maent yn ei wneud.
Os oes unrhyw un yn awyddus i gynnal stondin, yn awchu am bowlenaid o gawl, neu eisiau dysgu mwy am Fanc Amser Arberth – i’w hunain neu a ran pobl yn eu sefydliad
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y digwyddiad