Cyfres Insport


Mae Insport yn fenter Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n cydnabod ymrwymiad i gynnwys pobl anabl mewn chwaraeon, a bydd y gyfres Insport yn cynnig dewis eang o chwaraeon ar gyfer pobl sydd â namau dysgu, corfforol a synhwyraidd. Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer pob lefel o allu a phob lefel o nam, gan gynnwys y rheiny ag anghenion uchel o ran cymorth, ac mae’n gyfle hefyd i bobl heb anabledd roi cynnig ar chwaraeon wedi’u haddasu.
Bydd y digwyddiad yn arddangos dros 15 o chwaraeon, gan roi cyfle i bawb sy’n bresennol roi cynnig ar gynifer o chwaraeon ag y dymunant. Gan fod amrywiaeth eang o chwaraeon ar gael, rydym yn sicr y bydd rhywbeth i bawb ei fwynhau! Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am glybiau chwaraeon lleol y bydd y bobl sy’n bresennol am ymuno â nhw o bosibl.
Bydd y gweithgareddau chwaraeon yn cael eu cynnal dan do ac yn yr awyr agored ar yr un pryd; ond os bydd y tywydd yn wael, bydd yr holl sesiynau chwaraeon yn cael eu cynnal dan do.
Bydd offer chwaraeon wedi’u haddasu a chadeiriau olwyn chwaraeon ar gael i’w defnyddio. Mae gan y lleoliad doiledau hygyrch, gan gynnwys un sydd â gwely newid ac offer codi. Gofynnwn i chi ddod â’ch slingiau eich hun os byddwch yn defnyddio’r offer codi.
Y dyddiad olaf ar gyfer cofrestru yw dydd Gwener 14 Mehefin.
Manylion Cyswllt
Dyddiad: Dydd Iau, 20 Mehefin 2019
Cyfeiriad: Canolfan Hamdden Penfro, Bush, Penfro, Sir Benfro, SA71 4RJ
E-bost: angela.miles@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 776379
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y digwyddiad