Ffilm ddrama o Balestina yw Wahib. Cafodd ei chyfarwyddo gan Annemarie Jacir.
Mae’r ffilm am dad sy’n teithio gyda’i fab i roi gwahoddiadau priodas ei ferch i’r gwesteion.
Caiff ei dangos ar 3 Hydref.
Ffilm ddrama gomedi Americanaidd yw Do the Right Thing. Cafodd ei chyfarwyddo gan Spike Lee
Mae’r ffilm am ddyn sy’n berchen ar fwyty pizza Eidalaidd. Mae pobl yn penderfynu boicotio ei fwyty oherwydd tensiynau hiliol.
Caiff ei dangos ar 17 Hydref.
Ffilm ramantaidd yw Ash is Purest White. Cafodd ei chyfarwyddo gan Jia Zhangke.
Mae’r ffilm am fenyw ifanc o’r enw Quiao sy’n cymryd y bai am ei chariad, Bin.
Ar ôl iddi ddod allan o’r carchar, mae’n gweld bod Tsieina yn newid yn gyflym, a bod cariad newydd gyda Bin.
Caiff ei dangos ar 31 Hydref.
Ffilm wedi ei hanimeiddio yw Tehran Taboo. Cafodd ei chyfarwyddo gan Ali Soozandeh.
Mae’r ffilm am dair menyw a dyn sy’n ceisio ymdopi â chyfreithiau crefyddol Iran.
Caiff ei dangos ar 14 Tachwedd.
Ffilm ddrama o Libanus yw Capernaum. Cafodd ei chyfarwyddo gan Nadine Labaki. Mae’r ffilm am Zarin, sy’n fachgen strydgall a aeth i’r carchar am drosedd dreisgar.
Mae’n penderfynu mynd â’i rieni i’r llys am roi bywyd gwael iddo.
Caiff ei dangos ar 28 Tachwedd.
Ffilm o Chile yw Too Late to Die Young. Cafodd ei chyfarwyddo gan Dominga Sotomayor. Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar Sofia, sy’n 16 oed ac yn ceisio ymdopi â thyfu i fyny.
Caiff ei dangos ar 12 Rhagfyr.
Ffilm drosedd epig yw Birds of Passage. Cafodd ei chyfarwyddo gan Ciro Guerra.
Mae’r ffilm am esgyniad a chwymp teulu Wayuu wrth iddynt ddechrau yn y busnes cyffuriau, a dechrau colli eu traddodiadau wrth iddynt ffynnu.
Caiff ei dangos ar 16 Ionawr.
Ffilm ddrama ramantaidd yw Disobedience. Cafodd ei chyfarwyddo gan Sebastian Lelio.
Mae’n adrodd stori ffotograffydd yn Efrog Newydd sy’n mynd yn ôl i’w chymuned Iddewig Uniongred. Roedd y gymuned wedi troi ei chefn arni flynyddoedd yn ôl.
Mae hi’n cwrdd â hen ffrind, ac maen nhw’n yn cwympo mewn cariad unwaith eto, sy’n gwneud pethau yn anodd o achos eu ffydd.
Caiff ei dangos ar 30 Ionawr.
Ffilm ddrama o Tsieina yw So Long My Son. Cafodd ei chyfarwyddo gan Wang Xioshuai.
Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar deulu, lle mae’r mab y maent wedi’i fabwysiadu yn rhedeg i ffwrdd.
Mae angen i’r tad a’r fam ddelio â gorffennol trawmatig wedyn
Caiff ei dangos ar 13 Chwefror.
Ffilm ddrama o’r Eidal yw Happy as Lazarro. Cafodd ei chyfarwyddo gan Alice Rohrwacher.
Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar uchelwr ifanc sy’n ffurfio cydberthynas gref â ffrind newydd, sy’n gofyn iddo ei helpu i gael ei herwgipio.
Caiff ei dangos ar 27 Chwefror.
Ffilm ddrama o 2018 yw Madeline’s Madeline. Cafodd ei chyfarwyddo gan Josephine Decker.
Mae’r stori am yr actor Madeline, sy’n cael ei hannog i groesi’r ffiniau rhwng ei chymeriad a hi ei hun.
Bydd yn cael ei rhyddhau ar 12 Mawrth.
Ffilm ddrama ddirgel seicolegol o Dde Corea yw Burning. Cafodd ei chyfarwyddo gan Lee Chang-dong.