Ddydd Iau 7 Tachwedd 2019, bydd dangosiad hamddenol o “An American in Paris” yn Theatr Gwaun, Abergwaun.
Crynodeb:
Mae Jerry Mulligan (Gene Kelly) yn gyn-filwr Americanaidd sy’n aros ym Mharis ar ôl y rhyfel er mwyn paentio, ond yn hytrach mae’n disgyn mewn cariad â Lise Bouvier (Leslie Caron). Fodd bynnag, mae ei luniau’n denu sylw yr Americanaidd gyfoethog, Milo Roberts, sy’n gobeithio am ychydig mwy na chelf ganddo.