Dangosiadau Ffilm Sinema Hamddenol yn Theatr Torch 2019
Bydd Theatr Torch yn cynnal dangosiadau ffilm hamddenol, ac mae croeso i unrhyw un a fyddai’n cael budd o awyrgylch hamddenol, anfeirniadol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: pobl sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig; pobl ag anawsterau dysgu; pobl ag anawsterau synhwyraidd neu anawsterau cyfathrebu; rhieni â babanod ifanc; ac unrhyw un sydd o’r farn y byddent yn cael budd o brofiad mwy cefnogol a chynhwysol.
Mae’n brofiad gwahanol i daith arferol i’r sinema
- Ni fydd y golau’n cael ei ddiffodd yn llwyr
- Sain dawelach
- Dim rhagolygon ffilmiau na hysbysebion
- Seddau heb eu neilltuo fel bo modd symud







![Frozen 2 [Frozen ll]](http://www.accesspembrokeshire.co.uk/wp-content/uploads/2021/01/frozen_two_ver8_xxlg-691x1024.jpg)