Ffair Swyddi Sir Benfro 2019

Dydd Mercher 30 Ionawr, 4-7pm
Cynhelir Ffair Swyddi Sir Benfro yn y Pafiliwn, Maes Sioe Llwynhelyg, Hwlffordd ddydd Mercher 30 Ionawr! Dyma eich cyfle i weld busnesau llwyddiannus Sir Benfro yn arddangos y swyddi sydd ar gael ganddynt.
Pam y dylwn i fynd?
Dyma eich cyfle i gwrdd â chyflogwyr sy’n dymuno recriwtio unigolion tebyg i chi.
Ewch i siarad â’u cynrychiolwyr a chael blas ar sut beth fyddai gweithio gyda nhw, ynghyd â chael cyngor ar eich ceisiadau ac atebion i gwestiynau nad yw eu gwefannau yn ymdrin â nhw.
Dim byd at eich dant? Peidiwch â’ch diystyru eich hun – mae llawer o gyflogwyr yn y ffair yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amryw o gefndiroedd gwahanol.
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb, ni waeth ar ba gyfnod y byddwch yn eich gyrfa – efallai y bydd gennych yrfa sefydledig yn barod a’ch bod yn chwilio am rywbeth newydd, neu efallai y byddwch yn chwilio am yrfa i ddechrau ar eich bywyd gwaith – mae yna lawer o ddewisiadau i bawb!
Pwy fydd yno?
Gweithffyrdd+: Bydd tîm Gweithffyrdd+ Sir Benfro, a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, wrth law i gynnig cyngor ar hyfforddiant, cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith am dâl, a chymorth ar gyfer unigolion sy’n ddi-waith yn yr hirdymor.
YNGHYD Â: Cwmni Coastal Cottages, Activity Wales Events, Futureworks, Cyngor Sir Penfro, Pembrokeshire Care Ltd, Fferm Ffoli, Parc Antur Oakwood, Gwesty Tŵr y Felin, Hyfforddiant Providence, Glannau Aberdaugleddau, Puffin Produce, a llawer mwy!

Ffair Swyddi Sir Benfro 2019
Y Pafiliwn
Maes Sioe Llwynhelyg
Hwlffordd
SA62 4BW

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01834 887160
Cliciwch yma i weld y digwyddiad ar Facebook