Mae Grŵp Mynediad Sir Benfro yn elusen annibynnol sy’n anelu at hyrwyddo mynediad gwell at wasanaethau a chyfleusterau i bobl anabl yn y sir.
Mae’r grŵp yn annog cynghorau, datblygwyr a busnesau i danysgrifio i fodel cymdeithasol anabledd ac egwyddorion dyluniad cynhwysol er mwyn i bawb, gan gynnwys pobl anabl, allu mwynhau’r un cyfleusterau yn yr un modd.
Er bod Grŵp Mynediad Sir Benfro yn derbyn cymorth hael gan Gyngor Sir Penfro, mae’n grŵp ymreolaethol gyda’i agenda ei hun. Ers dechrau’r grŵp, mae aelodau wedi cyflwyno nifer o fentrau yn Sir Benfro gan gynnwys y cadeiriau olwyn i’r traeth a Phasbort Penfro.
Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn cyfarfod ar ail ddydd Iau bob mis (heblaw am fis Awst). Cynhelir cyfarfodydd fel arfer yn Neuadd y Sir o 1:30pm a chroesawir aelodau newydd bob amser.