Gŵyl Harbwr Saundersfoot 2019

Mae Gŵyl Harbwr Saundersfoot yn nodi diwedd Wythnos Bysgod arobryn Sir Benfro, a gynhelir ar 30 Mehefin 2019.
Mae’r ŵyl yn gobeithio addysgu a hysbysu’r cyhoedd am nodweddion cadarnhaol niferus y môr a’n morlin hardd trwy weithgareddau i’r teulu.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:
o Dal crancod – dal ac adnabod rhywogaethau, a fydd yn cael ei gynnal gan Geidwad y Parc Cenedlaethol.
o Arddangosiadau ffiledu pysgod gyda Nick Bryant ac yna coginio gydag Orsola Muscia (The Tailor Made Chef)
o Bydd Clwb Rhwyfo Wiseman’s Bridge yn cynnal cystadlaethau ar beiriannau rhwyfo, a hefyd yn cynnig cyfle i fynd allan yn y cwch rhwyfo pan fydd y llanw’n uchel (hwyr yn y prynhawn).
o Cystadlaethau gwisg ffansi i blant – ar thema lan y môr, wrth gwrs
o Bydd cerddoriaeth fyw a llawer o fwyd a diod ar gael
o A llawer o hwyl a gemau
Bydd yr hwyl yn dechrau am 11am ac yn para tan 5pm ar y dec digwyddiadau newydd yng Nghanolfan Arfordirol Ryngwladol Cymru yn Saundersfoot.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y digwyddiad