Fy enw i yw Lucy Hinksman ac rwy’n gweithio gyda’r gwasanaeth hawdd ei ddeall. Dechreuais y swydd yn eithaf diweddar ym mis Medi 2020.
Cefais hyfforddiant i olygu dogfen i sicrhau bod bob adran yn hawdd ei deall ac i sicrhau bod geiriau anodd yn cael eu hesbonio a bod lluniau o gymorth wrth ddeall y geiriau. Hefyd, siaradais â Barod ac y maen nhw wedi fy helpu gyda dogfennau.
Rwyf hefyd wedi cael gweld sut mae defnyddio meddalwedd Inprint.
Rwyf yn gweithio gyda’r tîm gorau, sef grŵp o bobl gydag anableddau dysgu o Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Rydym yn trafod hygyrchedd ac yn annog pobl i gofrestru ar gyfer y siarter anableddau dysgu.