Cynhaliwyd 11eg Gala Nofio flynyddol Sgwad Palod Penfro i’r Anabl yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd ddydd Sadwrn 10 Tachwedd.
Roedd y timau canlynol yn rhan o’r digwyddiad – Stingrays Abertawe, Siarcod Pen-y-bont, Camelion Caerdydd a Siarcod Bryste.
Llwyddodd y Palod i ennill 10 medal aur, 8 medal arian ac 11 medal efydd – a llwyddwyd i guro sawl sgôr bersonol.