Roedd y perfformiad ar 20 Rhagfyr yn cynnwys dehongliad trwy gyfrwng iaith arwyddion.
Roedd y perfformiad a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 22 Rhagfyr yn berfformiad hamddenol, gan olygu bod y sioe yn fwy addas ar gyfer unigolion ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth.
Roedd y perfformiad hamddenol wedi ei addasu fel bod yna ymagwedd fwy ymlaciol yn yr awditoriwm o ran y sŵn a’r symudiadau.
Cafodd y golau a’r sain eu haddasu hefyd er mwyn lleihau gorbryder.