Menu

Pinocchio yn Fyw yn Theatr y Torch

Y Stori Hudolus am y Pyped Bach Pren sy’n Dyheu am fod yn Fachgen Go Iawn.

Mae pob math o ryfeddodau yn ymddangos yn y fersiwn hyfryd hon o’r stori ffantasi glasurol i blant!

Mae’r sioe hwyliog hon, a ddaeth yn fyw yng ngweithdy hudolus Geppetto, ac sy’n llawn cerddoriaeth, hud a chwerthin, yn mynd â chi ar antur tylwyth teg i gwrdd â Ravenelli, y gwneuthurwr pypedau, ynghyd â chriciaid sy’n siarad, sipsi cyfriniol a bechgyn sy’n troi’n asynnod!

Byddwn yn nofio o dan y dŵr, lle mae yna siarc sy’n fwytwr mawr, felly peidiwch â cholli arnoch … neu efallai y cewch eich llyncu ganddo!

A allwch chi hyd yn oed ddychmygu hynny?

Cynhelir y sioe hon rhwng 20 Rhagfyr a 30 Rhagfyr; fodd bynnag, nodwch y bydd y perfformiad a gynhelir ddydd Iau 20 Rhagfyr yn cynnwys dehongliad iaith arwyddion, a bydd y perfformiad a gynhelir ddydd Sadwrn 22 Rhagfyr yn berfformiad ymlaciol, er mwyn gwneud y sioe yn fwy addas ar gyfer unigolion ag anhwylder y sbectrwm awtistiaeth.

Addesir y perfformiadau hyn fel bod iddynt awyrgylch mwy ymlaciol o ran sain a symudiad yn yr awditoriwm, ac addesir y golau a’r sain i leihau gorbyder a sicrhau ymweliad diogel a dymunol â’r theatr.

Internet Explorer users must scroll down on the website