Dros yr hydref, bydd Theatr y Torch yn cynnal tymor byr o ddangos hen glasuron ar y sgrin fawr. Dangosir y ffilmiau hyn dan faner “O’r Llwyfan i’r Sgrîn”, gan gynnig cyfle i bawb wylio’r clasuron yma.
12 Angry Men
Drama mewn llys Americanaidd a geir yn 12 Angry Men, wedi’i chyfarwyddwyo gan Sidney lumet. Mae’r ffilm yn sôn am reithgor o 12 o ddynion wrth iddynt benderfynu ar ffawd bachgen 18 oed.
A Streetcar Named Desire
Ffilm ddrama Americanaidd o 1951 a gyfarwyddwyd gan Elia Kazan yw A Streetcar Named Desire. Ynddi cawn hanes Blanche Dubois, cyn-athro sy’n symud o Mississippi i New Orleans at ei chwaer a’i brawd yng nghyfraith.
Of Mice And Men
Drama gyfnod a gyfarwyddwyd gan Gary Sinise yw Of Mice And Men, a chafodd ei rhyddhau yn 1992. Mae’r stori yn dilyn dau weithiwr fferm, George a Lennie, sy’n teithio gyda’i gilydd drwy California ac yn breuddwydio am fod yn berchen ar ychydig o dir eu hunain.