Bydd Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Glan-yr-Afon, Hwlffordd.
Mae’r digwyddiad ar ddydd Iau 4 Ebrill (10am-5pm) yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth (1-7 Ebrill), sydd â’r nod o addysgu’r rheiny nad ydynt yn ymwybodol o’r cyflwr, yn ogystal â helpu i wneud y byd yn lle mwy cyfeillgar i’r 700,000 o bobl sy’n byw gyda’r cyflwr ledled y DU.