Menu

Yn ddiweddar, aeth Clwb Bowlwyr Anabl Sir Benfro â naw o’i fowlwyr i Bencampwriaeth Senglau Bowls Dan Do Anableddau Dysgu Cymru yng Ngerddi Sophia, Caerdydd ac, i bump ohonyn nhw, dyma oedd eu cystadleuaeth gyntaf yn cynrychioli eu rhanbarth. Cymerodd tua 40 o athletwyr ran yn y gystadleuaeth ar y dydd, gan ddechrau gyda seremoni agoriadol a bowliwr enwebedig yn darllen llw’r athletwyr. Roedd pob athletwr yn ei gategori ei hun yn ôl ei allu a’i lefel sgìl; lefel un, dau neu dri. Roedd yr athletwyr yn cystadlu mewn adrannau, ac yn chwarae dwy neu dair gêm 35 munud o hyd, gan ddibynnu ar nifer y bowlwyr yn eu hadran. Roedd bowlwyr Sir Benfro wedi treulio misoedd yn hyfforddi, ac roedd y cyfan wedi talu ffordd, oherwydd chwaraeon nhw’n arbennig o dda, er gwaethaf y nerfau, i ddod â naw medal gartref gyda nhw!

Cliciwch yma i ddarllen mwy am yr erthygl newyddion

Internet Explorer users must scroll down on the website