Mae siop fferm a’i chynnyrch wedi agor ym Maenordy Scolton yn Hwlffordd.
Mae’n ychwanegiad i gynnig presennol Cyngor Sir Penfro ar gyfer cyflogaeth a gynorthwyir trwy Ddiwydiannau Normanaidd.
Mae’r siop fferm yn darparu profiad gwaith, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth a gynorthwyir trwy wasanaethau manwerthu a chwsmeriaid ar gyfer pobl gydag awtistiaeth, Syndrom Downs ac anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae gan y siop gigoedd lleol, ffres, siytni, ffrwythau a llysiau, te a choffi.
Mae’r siop hefyd yn darparu canolfan fanwerthu ar gyfer gweithiau celf, crefftau a chynnyrch a wnaed mewn Diwydiannau Normanaidd.