Mae siop fferm a chynnyrch newydd wedi agor ym Maenordy Scolton yn Hwlffordd.
Mae’n rhan o gynnig presennol Cyngor Sir Penfro i roi cyflogaeth dan gymorth drwy Norman Industries.
Mae’r siop fferm yn cynnig profiad gwaith, hyfforddiant, a chyfleoedd cyflogaeth dan gymorth ym meysydd manwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid, ar gyfer pobl sydd ag awtistiaeth, Syndrom Down, ac anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae gan y siop de a choffi, cigoedd, siytni, a ffrwythau a llysiau ffres lleol.
Mae’r siop hefyd yn gwerthu gwaith celf, crefftau, a nwyddau Norman Industries.