Bydd Haverfoodfest yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 4 Mai 2019 ac mae’r Pwyllgor yn gweithio ar fformat newydd, a fydd yn newid fformat yr ŵyl fwyd leol boblogaidd ac yn dod â hi i mewn i strydoedd canol tref Hwlffordd.
Mae 50 o stondinwyr bwyd a diod o safon o Gymru wedi cofrestru. Bydd hyn yn gweld stondinau wedi eu gwasgaru o amgylch y dref o Stryd y Cei, Sgwâr y Castell, Stryd y Bont i’r Hen Bont a’r Sgwâr a Glan-yr-afon gyda llawer o gyfleoedd i flasu bwyd a diod gwych.