Menu

Big Community Soup yn lansio Banc Amser Arberth - Hawdd ei Ddeall

Bydd Cawl Cymunedol mawr yn cael ei weini am ddim yn Neuadd y Frenhines ddydd Mercher yma (6 Tachwedd) i lansio Banc Amser swyddogol Arberth.

Bydd Neuadd y Frenhines, PAVS, Banc Bwyd Sir Benfro, ac Oergell Gymunedol Arberth yn dod ynghyd ar gyfer y digwyddiad.

Cynllun cymunedol rhad ac am ddim yw Banc Amser Arberth, ac rydych yn cyfrannu trwy ddefnyddio amser yn hytrach nac arian.

Am bob awr y mae person yn ei roi i weithgaredd bancio amser – fel helpu cymydog neu ddysgu pobl i wau – byddant yn derbyn un credyd amser.

Yna, cewch amnewid eich credydau am amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a hamdden.

Bydd y cawl – a fydd ar gael o 1pm ddydd Mercher – yn cael ei goginio gan ddefnyddio bwyd dros ben o’r ardal leol.

Bydd gan fudiadau gwirfoddol yr ardal stondinau yn Neuadd y Frenhines hefyd er mwyn dangos eu gwaith

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y digwyddiad

Internet Explorer users must scroll down on the website