











3 Hydref – Wajib
Drama dawel, gymhellol, sy’n cynnwys eiliadau o hiwmor gwych gan Annemarie Jacir wrth i’r tad a’r mab, Abu a Shadi, dreulio diwrnod o aeaf yn dosbarthu gwahoddiadau priodas yn Nasareth. Mae Abu yn athro ysgol wedi ymddeol sydd wedi cyfaddawdu sawl tro yn ystod ei fywyd i gadw gwyliadwriaeth dros Israel; mae Shadi yn bensaer ifanc sy’n byw yn yr Eidal, yn gwisgo dillad Ewropeaidd ac yn gweld Palestina o safbwynt gorllewinol. Mewn modd deheuig, mae Wajib yn dadorchuddio haenau o densiwn diwylliannol a theuluol, a rhwng y cenedlaethau.
17 Hydref – Do The Right Thing
Gallai’r ffilm Do The Right Thing, a wnaeth enw i Spike Lee ac sy’n cael ei rhyddhau i nodi ei phen-blwydd yn ddeg ar hugain, fod wedi cael ei chreu ddoe gan ei bod dal i neidio’n syth atoch o’r sgrin; mae ei stori am densiwn amlddiwylliannol yr un mor berthnasol ‘nawr ag y bu erioed. A hithau wedi’i gosod yn ystod un diwrnod crasboeth yn Brooklyn, mae’r ffilm yn dilyn amrywiaeth o gymeriadau yn y gymdogaeth, gyda’r cyfan yn cylchdroi o gwmpas ymgais i foicotio pizzeria enwog Sal.
31 Hydref – Ash is Purest White
Rhamant dan waharddiad ynadol yw’r ddiweddaraf gan Jia Zhangke, sy’n darlunio byd cyfnewidiol Tsieina dros ddwy flynedd ar bymtheg. Mae Qiao yn fenyw ifanc mewn tref lofaol ddirwasgedig, sy’n derbyn y gosb ar ran ei chariad, Bin, y gangster. Pan ddaw allan o’r carchar, mae’n darganfod bod gan Bin fenyw newydd a bod China yn berwi o newidiadau chwim. A hithau’n ffilm o fyfyrdod ar wlad, perthnasoedd ag eraill ac oferedd dymuniadau dynol, mae wedi cael adolygiadau gwych.
14 Tachwedd – Tehran Taboo
Yn y naratif amledau hwn, mae cerddorion a phuteiniaid yn dod o hyd i ffyrdd o gwmpas deddfau caeth eu gwlad. Mae Pari’r butain, meistres i farnwr, yn dod yn ffrind i’w wraig Sara, sy’n dyheu am weithio. Mae Babak a Donya yn chwilio am ffyrdd i guddio gwyryfdod colledig Donya. Wedi’i ffilmio mewn rotosgop, mae’r ffilm yn creu gwead gweledol rhyfeddol, gan lunio cefnlen hyperreal i’r cymeriadau wrth iddynt ddod wyneb yn wyneb â heriau gwahanol yn y gymdeithas ormesol y maent yn byw ynddi.
28 Tachwedd – Capernaum
Ar ôl rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei rieni esgeulus yn Libanus, cyflawni trosedd dreisgar a chael ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar, mae bachgen calongaled, strydgall o’r enw Zain yn erlyn ei rieni mewn protest ynghylch y bywyd y maent wedi ei roi iddo. Mae’r ffilm rymus ac emosiynol hon gan Nadine Labaki wedi ennill gwobrau a barn euraidd am ei phortread o dlodi, anobaith, cariad a dynoliaeth.
12 Rhagfyr – Too Late To Die Young
Yn 1990, ychydig ar ôl cwymp unbennaeth Pinochet, mae Sofia, merch un ar bymtheg oed o Chile, yn chwilio am lwybr allan o syrthni trymaidd yr amodau gwladaidd y mae ei thad wedi’u dewis ar ei chyfer. Mae ambell i ddigwyddiad bygythiol yn awgrymu bod y byd y tu allan yn ennill tir, ac mae hanes yn codi ei ben fel mwg, bron heb i neb ei weld, ac yn hongian yn yr aer o amgylch trigolion cymuned wledig yn Chile, lle mae’r ffilm wedi’i gosod. Wedi’i ffilmio trwy gyfrwng sinematograffi hyfryd o atmosfferig, mae’r camera’n aml yn ffilmio’i gymeriadau o bell. Mae’r lleoliadau di-ffrwt yn helpu’r cyfarwyddwr, Dominga Sotomayor, i greu ymdeimlad o’r cof a’r dehongliad o dyfu i fyny.
16eg Ionawr – Birds of Passage
Gwreiddiau masnach cyffuriau Columbia, fel y’i gwelir trwy lygaid teulu Wayuu brodorol sy’n dod yn rhan o’r busnes ffyniannus o werthu mariwana i ieuenctid America yn yr 1970au. Pan fo trachwant, angerdd ac anrhydedd yn gwrthdaro, mae rhyfel brawdladdol yn dechrau, gan olygu bod eu bywydau, eu diwylliant a’u traddodiadau hynafol yn y fantol. Mae’r cyfarwyddwr Ciro Guerra, lluniwr y campwaith Embrace of the Serpent, yn cyfuno realaeth hud ag ehangder epig.
30 Ionawr – Disobedience
Mae’r ffotograffydd o Efrog Newydd, Ronit Krushka, yn hedfan i Lundain ar ôl clywed am farwolaeth ei thad, a oedd wedi ymddieithrio. Mae Ronit yn dychwelyd i’r un gymuned Iddewig Uniongred a’i gwrthododd ddegawdau ynghynt oherwydd ei hatyniad yn ystod ei phlentyndod at Esti, ffrind benywaidd. Cyn bo hir, mae eu haduniad damweiniol a hapus yn ailgynnau eu cariad angerddol wrth i’r ddwy ddynes archwilio ffiniau ffydd a rhywioldeb. Archwiliad cynnil ond dwys o hunaniaeth a hunanaberth gan y cyfarwyddwr o Chile, Sebastian Leilo.
13 Chwefror – So Long My Son
Mewn tref glan môr fechan yn Fujian, de-ddwyrain China, pan mae Xingxing, eu mab mabwysiedig, yn rhedeg i ffwrdd, mae Yaojun a Liyun yn cael ôl-fflachiau i’w gorffennol, pan gawsant eu gorfodi gan cadre cynllunio teulu i erthylu plentyn. Mae’r ffilm hon, a luniwyd mewn modd celfydd gan Wang Xiaoshuai, yn edrych ar y niwed parhaol a wnaed gan bolisi un plentyn Tsieina. Mae natur brudd y ffilm yn codi i ymchwydd o obaith ac addewid.
27 Chwefror – Happy as Lazarro
Mae Lazarro, gwerinwr ifanc caredig, a Tancredi, uchelwr ifanc dan felltith ei ddychymyg, yn ffurfio perthynas glòs sy’n newid eu bywydau pan fo Tancredi yn gofyn i Lazarro ei helpu i drefnu ei herwgipiad ei hun.
Yn y stori hudolus hon am Eidal euraidd, wledig sydd wedi cael ei mathru gan foderniaeth, mae’r enillydd yn Cannes, Alice Rohrwacher, wedi llunio chwedl realaidd hud sy’n dyblu i fod yn fyth ynghylch tarddiad ar gyfer yr Eidal fodern sydd wedi amsugno llygredigaeth a dirywiad.
12 Mawrth – Madeline’s Madeline
Mae Madeline wedi dod yn rhan annatod o gwmni theatr gorfforol mawreddog. Pan fo cyfarwyddwr uchelgeisiol y gweithdy yn gwthio’r ferch sydd yn ei harddegau i blethu ei byd mewnol cyfoethog a’i hanes cythryblus gyda’i mam i’w celf gyfunol, mae’r llinellau rhwng perfformiad a realiti yn dechrau cymylu. Mae’r frwydr rhwng dychmygu a phriodoli yn rhwygo allan o’r gofod ymarfer ac yn rhedeg trwy fywydau’r tair menyw. Trydedd ffilm y rebel-gyfarwyddwr o America, Josephine Decker.
26 Mawrth – Burning
Yn seiliedig ar stori fer Haruki Murakami, mae’r ffilm syfrdanol hon gan Lee Chang-dong yn ymlithro’n araf dros y gwyliwr. Gyda ffilmio rhagorol, mae’r stori’n canolbwyntio ar gariad obsesiynol Jongsoo, bachgen o gefn gwlad Paju, De Korea. Mae enigma – diflaniad – a phyromania yn gweithredu fel trosiadau wrth i gymeriadau ymddangos a diflannu gydag effaith hudolus ar gariad clwyfedig ac enaid drylliedig Jongsoo. Ffilm sy’n aros gyda’r gwyliwr am ddyddiau ac wythnosau.