Cyflogaeth Gwybodaeth Ychwanegol
Gwaith a Ganiateir
Mae pobl sy’n derbyn un o’r budd-daliadau canlynol yn gallu ennill peth arian wrth barhau i dderbyn eu budd-daliad:
· Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
· Lwfans Anabledd Difrifol (SDA)
· Credydau Yswiriant Cenedlaethol
· Cymorthdal incwm oherwydd anallu i weithio
Cymorth Incwm
Gallwch ennill hyd at £20 yr wythnos.
ESA/SDA/Credydau Yswiriant Cenedlaethol – Gwaith a Ganiateir
Gallwch ennill hyd at £120 yr wythnos, ar ôl didyniadau treth ac Yswiriant Cenedlaethol, heb effeithio ar eich budd-daliad. Nid oes hawl gennych weithio dros 16 awr yr wythnos.
Gwaith a Ganiateir â Chymorth: swydd lle cewch eich goruchwylio gan rywun sy’n cael ei gyflogi gan gorff cyhoeddus, awdurdod lleol, grŵp cymunedol neu wirfoddol, sy’n darparu neu’n dod o hyd i waith i bobl ag anableddau.
Mynediad at Waith
Gall grant Mynediad at Waith dalu am gymorth ymarferol, gan gynnwys:
· Offer arbennig neu wedi’i addasu.
· Costau teithio i’r gwaith, os rydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
· Gweithiwr cymorth, hyfforddwr swyddi neu wasanaeth cymorth.
· Hyfforddiant ymwybyddiaeth o anableddau.
· Cyfathrebwr mewn cyfweliad am swydd.
Dewis Gwaith
Mae Dewis Gwaith yn cynorthwyo pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor i ddod o hyd i waith ac i aros mewn gwaith.
Yn Sir Benfro, darperir Dewis Gwaith gan Ymddiriedolaeth Shaw.
Ffeithiau am Gyflogaeth a Phobl ag Anableddau
· Mae 46% o bobl ag anableddau yn gweithio.
· Mae gan un o bob pump unigolyn oed gwaith yn y DU anabledd (7 miliwn / 18.6%).
· Dim ond 5.7% o oedolion ag anableddau dysgu sy’n wybodus i’r Gwasanaethau Cymdeithasol sydd mewn unrhyw fath o waith gyda thâl.
· Mae 65% o bobl ag anableddau dysgu eisiau dod o hyd i waith.
Pam y dylai cyflogwyr gyflogi pobl ag anableddau?
Y talentau y maen nhw’n eu cynnig:
· Safbwyntiau unigryw ar agweddau busnes.
· Ymroddedig iawn i’r busnes.
· Dibynadwyedd.
· Gonestrwydd.
· Hyblygrwydd.
· Yn barod i dreulio amser yn gwneud tasgau amhoblogaidd.
· Yn creu cyfleoedd a chysylltiadau.
· Pŵer prynu pobl ag anableddau.
· Ar lafar.