Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Anableddau Dysgu Sir Benfro ym mis Ebrill 2016. Byddant yn:
Sicrhau y caiff pobl sydd ag anableddau dysgu yr un cyfleoedd â phawb arall.
Sicrhau bod Strategaeth Anableddau Dysgu Sir Benfro yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.
Rhannu gwybodaeth a chyngor rhwng y partneriaid a phobl ag anableddau.
Cefnogi gwasanaethau i gyflawni polisïau cenedlaethol.
Mae Firiolwyr Anableddau Dysgu yn croesawu’r gwaith o ddatblygu’r cynllun ar gyfer Sir Benfro.
Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gweithio gyda’i gilydd i wella ansawdd bywyd pobl ag Anableddau Dysgu sy’n byw, yn gweithio neu’n cymdeithasu yn Sir Benfro.
Mae’r cynllun yn nodi nifer o ganlyniadau allweddol i’w cyflawni. Bydd Bwrdd Partneriaeth Anableddau Dysgu yn gyfrifol am sicrhau bod Cynllun Cyflawni yn cael ei ddatblygu er mwyn cyflawni’r canlyniadau hyn.