Ynghylch y Tîm Hawdd ei Deall
Ynghylch y Tîm Hawdd ei Deall
Aelodau Presennol
Fy enw i yw Dan
Fi yw’r arweinydd tîm.
Rwy’n helpu’r tîm i benderfynu beth i’w wneud. Rydw i yno i helpu pan fydd angen.
Rwy’n mwynhau fy rôl, mae’n helpu i fagu fy hyder ac mae’n rhoi boddhad mawr i mi.
Fy enw i yw Sian
Rwy’n mwynhau gweithio gyda thîm y wefan anableddau dysgu.
Rwy’n mwynhau gweithio ar y wefan gan fy mod yn meddwl am syniadau newydd.
Rydw i hefyd yn gweithio yng Nghyngor Sir Penfro yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gallaf sganio dogfennau, eu cadw ar CareFirst a rhwygo’r dogfennau gwreiddiol.
Fy enw i yw Mark
Rwy’n mwynhau gweithio ar y wefan anableddau dysgu gan fod hynny’n fy nghadw’n hyderus ac yn annibynnol.
Rwy’n hoffi darllen llyfrau.
Rwy’n hoffi mynd i’r sinema.
Cyn-Aelodau
Dim llun ar gael
Fy enw i yw Jordan
Rwy’n gweithio ar dîm y wefan anableddau dysgu.
Rwy’n mwynhau gweithio ar y wefan gan fod hynny’n fy ngalluogi i feddwl am ffyrdd creadigol o ddylunio’r wefan.






