Mae Wings Over Pembrokeshire yn grŵp cerddoriaeth cymdeithasol sy’n rhoi cyfle i bobl ag anableddau ac anawsterau dysgu i berfformio gyda cherddorion ac mae wedi ennill Gwobr Balchder yn Sir Benfro.
Mae’r grŵp yn cwrdd yn Ysgol Arbennig Portfield bob nos Fercher.
Mae aelodau o bob oed yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau cerddorol.
Daw rhai aelodau i wrando ar gerddoriaeth a chymdeithasu gydag eraill a dysgu i fwynhau’r sesiynau trwy’r gerddoriaeth.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am yr erthygl newyddion