Bydd Theatr y Torch yn cynnal dangosiadau arbennig ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa o fod mewn awyrgylch hamddenol ac anfeirniadol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) bobl â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth; pobl ag anawsterau dysgu; pobl ag anawsterau synhwyraidd neu gyfathrebu; rhieni â babanod ifanc; ac unrhyw un sy’n teimlo y byddent yn buddio o brofiad mwy cefnogol a chynhwysol.
Mae’n brofiad gwahanol i daith arferol i’r sinema
Ni fydd y golau’n cael ei ddiffodd yn llwyr
Sain dawelach
Dim rhagolygon ffilmiau na hysbysebion
Seddau heb eu neilltuo fel bo modd symud
Cats – Dydd Sadwrn 4 Ionawr 2020 11:00yb
Spies in Disguise – Dydd Sadwrn 1 Chwefror 11:00yb
Dolittle – Dydd Sadwrn 8 Chwefror – 11:00yb – Dydd Iau 20 Chwefror – 4:20yh
Sonic the Hedgehog – Dydd Sadwrn 22 Chwefror – 1:30yh