Eleni, am y deunawfed tro, cynhelir digwyddiad casglu teganau y Three Amigos er budd wardiau Ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Bydd y digwyddiad yn cychwyn am 1pm ym Mharc Comin Penfro, ac yn teithio trwy Ddoc Penfro, Neyland ac Aberdaugleddau, cyn cyrraedd Canolfan Gynadledda Llwynhelyg.