Menu

Gorymdaith Llusernau Hwlffordd

Over The Moon – Gorymdaith Llusernau Hwlffordd

31 Hydref 2019

Bydd yr orymdaith llusernau boblogaidd yn dychwelyd i Hwlffordd ddydd Iau 31 Hydref am 6.30pm. Mae Over The Moon Lantern and Light Event yn ddathliad o’r gofod a’r awyr gyda’r nos; er mwyn nodi 50 mlynedd ers i ddyn lanio ar y lleuad am y tro cyntaf, yn ogystal â dychmygu bywyd y tu hwnt i’r ddaear.

Bydd pobl o bob cwr o’r Sir yn ymgynnull yn Haverhub (yr hen Swyddfa Bost) yn Hwlffordd cyn cerdded i’r castell yn yr orymdaith llusernau cannwyll.

Bydd Castell Hwlffordd yn dod yn fyw gan oleuadau, a bydd sinema sydd wedi’i bweru gan bobl yn dangos ffilmiau byrion i ddathlu’r lleuad a’r awyr dywyll hydrefol.

Dewch i fod yn rhan o’r orymdaith llusernau: a dewch draw i’r gweithdy gwneud llusernau!

Neuadd Regency, Saundersfoot, Hydref 5,

Neuadd Bentref Aber Llydan, 12 Hydref,

Oriel y Parc, Tyddewi, Hydref 19,

Haverhub, Hwlffordd, Hydref 26, 27, a 28.

Bydd pob gweithdy rhwng 10am a 4pm.

Internet Explorer users must scroll down on the website