Mae’r Orymdaith Lusernau ryfeddol a phoblogaidd yn dychwelyd i Hwlffordd ddydd Iau, 31 Hydref am 6.30pm.
Mae Digwyddiad Llusernau a Golau Dros y Lleuad yn dathlu’r gofod ac awyr y nos; gan nodi 50 mlynedd ers i’r dyn cyntaf lanio ar y lleuad a dychmygu bywyd y tu hwnt i’r ddaear.
Bydd pobl o bob cwr o’r sir yn dod at ei gilydd yn Haverhub (yr hen Swyddfa Bost) yn Hwlffordd cyn gorymdeithio yng ngolau cannwyll i’r Castell.
Bydd Castell Hwlffordd yn dod yn fyw gyda goleuadau a sinema wedi’i bweru gan bobl a fydd yn cynnwys ffilmiau byr i ddathlu’r lleuad ac awyr dywyll yr hydref.