Menu

Rhys Eynon, Hyrwyddwr Anableddau Dysgu

Helo, fy enw i yw Rhys Eynon ac rwy’n un o’r pedwar Hyrwyddwr Anableddau Dysgu sy’n cynrychioli Sir Benfro.

Rwyf wedi cael diagnosis o anhwylder ar y sbectrwm Awtistig ar lefel isel. Nid yw’n fy rhwystro rhag byw fy mywyd i’r eithaf a chynorthwyo lle y bo modd.

Fy rôl yw cynrychioli rhannau deheuol Sir Benfro ym maes cymunedau a grwpiau. Rwy’n cwmpasu’r ardaloedd canlynol, Dinbych-y-pysgod, Arberth, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Neyland a Phenfro. Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio’n agos gyda chriw Cysylltwyr Cymunedol PAVS (Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro) sy’n ceisio gwella llesiant unigolion a chymunedau (un o’u nifer o nodau). Rwyf hefyd yn gweithio gyda Norman Industries ac yn ei gynorthwyo i hyrwyddo ei ddigwyddiadau allweddol.

Mae hyn yn golygu fy mod yn teithio ledled y sir yn aml gan gwrdd â grwpiau ac unigolion amrywiol.

Yr hyn rwyf am ei gyflawni yw amrywiaeth fwy eang o wasanaethau a gweithgareddau sy’n hygyrch i bawb, waeth beth fo’u gallu a gweld pobl sydd ag anableddau yn integreiddio a chymdeithasu â phobl sy’n fwy abl yn feddyliol drwy ddiddordebau cyffredin. Boed hynny drwy chwaraeon, cerddoriaeth, gemau, celfyddydau creadigol ac ati.

Y tu allan i’r gwaith, rwy’n gwirfoddoli’n rheolaidd i’r Groes Goch Brydeinig ac i Span Arts. Mae’r ddau sefydliad yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal a darparu eu gwasanaethau i’r cyhoedd ehangach.

Fy niddordebau: Rwy’n frwd iawn dros gerddoriaeth ac, ar hyn o bryd, rwy’n hoffi’r rhan fwyaf o genres (cerddoriaeth roc ac electronig yn arbennig). Creu rhestrau chwarae ar gyfer achlysuron a chreu fy ngherddoriaeth fy hun yw fy arbenigeddau yn y diddordeb hwn. Mae fy niddordebau eraill yn cynnwys ysgrifennu creadigol, chwarae gemau cyfrifiadur, gwylio digwyddiadau cerddoriaeth byw a chwarae pêl-droed.

Rwy’n bwriadu tynnu sylw at wasanaethau a grwpiau amrywiol mewn erthygl arbennig unwaith y mis a fydd ar gael ar y safle hwn yn ogystal â thrwy PAVS.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael gwybodaeth am rywbeth sy’n digwydd yn Sir Benfro, gallwch gysylltu â mi yn: rhys.eynon@pembrokeshire.gov.uk

Internet Explorer users must scroll down on the website