Mae Value Independence yn darparu cymorth arbenigol wedi’i deilwra i bob aelod o’r gymuned. Rydym yn darparu cymorth i helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder a bod yn fwy annibynnol, boed yn eu cartrefi eu hunain neu yn y gymuned.
Mae ein gwasanaethau dydd a gynhelir yn ein canolfan trwy gydol yr wythnos yn cynnwys sesiynau grŵp sy’n helpu ein cleientiaid i ddysgu a datblygu sgiliau byw yn annibynnol ar ffurf sesiynau coginio / bwyta’n iach, llythrennedd a rhifedd, datblygiad personol, rheoli arian, lles a materion cyfoes. Mae ein sesiynau cyfryngau, celf a chrefft, ailgylchu, amgylcheddol a chrefftau’r coed yn galluogi ein cleientiaid i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder ac atgyfnerthu sgiliau maen nhw wedi eu dysgu yn ystod sesiynau blaenorol.
Rydym yn rhedeg rhaglen iechyd a lles ar hyn o bryd lle caiff pob cleient brawf ffitrwydd. Yna, rydym yn cynnal sesiynau ar ystyr iechyd a lles, gan osod nodau ar gyfer iechyd a lles, maetheg, rheoli straen ac ysgrifennu cynlluniau cadw’n heini unigol.