Menu

Fy enw i yw Rachel Bailey ac rwy’n hyrwyddwr cyflogaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Mae gen i Barlys yr Ymennydd ac rwyf wedi ei gael drwy gydol fy mywyd. Mae fy Mharlys yr Ymennydd yn effeithio ar fy lleferydd a fy symudedd.

Gydag amynedd, mae’n dod yn haws dros amser. Rwy’n hoffi byw bywyd i’r eithaf!

Rwy’n credu y dylai cyflogwyr roi gwaith i bobl ag anableddau i roi cyfle i ni allu dangos yr hyn y mae pobl ag anableddau’n gallu ei wneud.

Mae byw ag anabledd fy hun yn gallu bod yn unig iawn gan fy mod yn teimlo’n wahanol i bawb arall sy’n mynd allan ac yn dod o hyd i swydd.

Nid yw byw ag anabledd yn golygu nad ydym yn gyflogadwy. Mae gan bawb dalent a galluoedd mewn rhyw ffordd.

Byddai cael cyfle yn meddwl llawer i ni. Ni ddylid barnu person na gosod amodau iddo ar sail ei anabledd neu gyflwr iechyd.

Mae angen i’r gweithle gael hawliau cyfartal ac amgylchedd o dderbyn.

Internet Explorer users must scroll down on the website