Bydd diwrnod Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Glan-yr-afon, Hwlffordd.
Mae’r digwyddiad gynhelir ddydd Iau 4 Ebrill (10am-5pm) yn rhan o’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth (1-7 Ebrill), sy’n ceisio addysgu’r rheiny nad ydynt yn ymwybodol o’r cyflwr.
Mae hefyd yn helpu i wneud y byd yn lle mwy cyfeillgar ar gyfer y 700,000 o bobl ledled y Deyrnas Unedig sy’n byw ag Awtistiaeth.