Bydd Derek Brockway, dyn tywydd BBC Wales Today, yn ymweld â thref glan môr Saundersfoot yn Sir Benfro fel rhan o’i raglen deledu boblogaidd, Weatherman Walking.
Yna, bydd yn teithio i gyfeiriad y dwyrain ac yn ymweld ag Amroth, Gardd Goedwig Colby a thraeth hyfryd Morfa Bychan. Yn ogystal, bydd yn dysgu am y rhan allweddol y chwaraeodd y rhan hon o’r arfordir yng nglaniadau D-Day.
Traeth Pentywyn fydd ei gyrchfan olaf, lle bydd Derek yn clywed straeon am yr ymdrechion i dorri’r record byd ar gyfer cyflymder tir a wnaeth y traeth yn enwog o amgylch y byd, gan gynnwys y car, ‘Babs’, a orweddodd o dan y tywod am bedwar deg a dau o flynyddoedd.
Bydd deuddegfed cyfres Weatherman Walking yn canolbwyntio ar rannau penodol o Lwybr Arfordir Cymru ac yn ymweld â’r ardal rhwng Abereiddy a Phorth Mawr yn y bennod a fydd yn cael ei darlledu ar 10 Mai.
Cliciwch fan hyn i ddarllen mwy am y pennawd newyddion