Diwydiannau Norman
Ffatri gyda chymorth yw Diwydiannau Norman. Mae’n cyflogi 28 o bobl gydag anableddau. Mae pobl yn gweithio rhwng 16 a 37 awr yr wythnos.
Mae Diwydiannau Norman yn gweithio gyda phobl ag ystod eang o anableddau:
- Anableddau dysgu
- Awtistiaeth
- Cyflyrau iechyd meddwl
- Anableddau corfforol a synhwyraidd
- Hanes o gam-drin sylweddau
- Cyflyrau iechyd sy’n atal pobl rhag gweithio, er enghraifft epilepsi, canser a llid y cymalau
Profiad Gwaith
Mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i bobl:
- Ddatblygu sgiliau gwaith
- Mynychu hyfforddiant
- Gwella eu CVs
- Sicrhau geirda ar gyfer cyflogwyr yn y dyfodol
Gellir darparu profiad gwaith mewn nifer o feysydd, yn unol â’r rhestr isod.
Gwaith coed
Dysgu sgiliau ar gyfer y diwydiant adeiladu.
Mae’r sgiliau a addysgir yn cynnwys:
- Gwneud drysau a ffenestri, gosod fframiau a waliau stýd
- Gosod toeon / distiau
- Gosod grisiau
- Peintio ac addurno
Gwaith Coed
Mae sgiliau gwaith coed yn cynnwys adeiladu, cynnal a chadw, gofal a rolau crefftus.
Mae’r sgiliau a addysgir yn cynnwys:
- Cynnal a chadw offer llaw
- Defnyddio offer trydanol
- Adeiladu cynnyrch
- Gorffen – creu cynnyrch a’i addurno i ansawdd uchel
Cynhelir dosbarthiadau gwaith coed ar foreau Gwener.
Cynnal a chadw eiddo
Yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau mewn ystod o feysydd, gan gynnwys torri gwair, strimio, chwynnu, torri cloddiau, cynnal borderi a phlannu.
Mae’r sgiliau a addysgir yn cynnwys:
- Defnyddio offer gardd
- Defnyddio offer gardd trydanol / peiriannol
- Adnabod chwyn
Cynhelir y sesiynau yng ngardd â wal o’i chwmpas Maenordy Scolton.
Hyfforddiant Achrededig
- Darperir achrediad mewn ystod o bynciau sy’n gysylltiedig â meysydd gwaith perthnasol.
- Darperir hyffoddiant ar lefel Sylfaenol, Lefel 1 a Lefel 2, yn unol â’r angen a’ch gallu.
- Darperir hyfforddiant mewn grwpiau ac 1:1.
- Mae Diwydiannau Norman yn rhan o BASE (British Association of Supported Employment).
- Darperir cymorth ar gyfer cyflogaeth gan raglen Dewis Gwaith.
- Mae Diwydiannau Norman yn gyflogwr sydd ag hyder mewn pobl anabl.
- Darperir y rhaglen Hyder Anabledd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn nodi cyflogwyr sy’n cyflogi, cynorthwyo a hyrwyddo pobl anabl yn y gweithle.
Gwybodaeth am y Diwydiant
Mae Diwydiannau Norman wedi masnachu ers dros 40 o flynyddoedd (1977-2017).
Mae Diwydiannau Norman yn gweithio mewn partneriaeth â Maenordy Scolton.
Mae Diwydiannau Norman yn gwneud prosiectau gwaith coed a thasgau megis torri gwair, strimio a gwaith cynnal a chadw yn y goedwig.
Manylion cyswllt
Ffôn: 01437 763650
E-bost: normanindustries@pembrokeshire.gov.uk
Snowdrop Lane
Hwlffordd
SA61 1JB