Yr Hyn a Wnawn
Mae PAVS yn rhoi cymorth i nifer o wahanol fathau o grwpiau yn Sir Benfro, gan gynnwys elusennau, grwpiau cymorth a mathau eraill o sefydliadau gwirfoddol.
Mae PAVS hefyd yn cefnogi pobl i wneud y canlynol:
- Dod o hyd i rôl wirfoddol.
- Dod o hyd i help neu gefnogaeth neu gael gafael ar wasanaethau.
Y Cysylltwyr Cymunedol
Mae yna bedwar Cysylltwr Cymunedol yn Sir Benfro, a’u rôl nhw yw cwrdd â phobl er mwyn helpu gyda phob math o bethau. Gallant gefnogi pobl i gymryd camau cadarnhaol er mwyn gwella iechyd, bod yn fwy cymdeithasol, mynd allan a helpu pobl i fwynhau bywyd lle maent yn byw. Gall hyn fod drwy wirfoddoli, cysylltu â grŵp lleol, clwb neu hyd yn oed rywbeth fel cludiant cymunedol.
Gwirfoddoli
Pan fyddwch yn gwneud gweithgaredd neu dasg lle nad ydych yn cael eich talu, er budd rhywun arall heblaw chi’ch hun neu eich teulu, byddwch yn gwirfoddoli.
Mae nifer o rolau gwirfoddol ar gael ledled Sir Benfro (mwy na 400) a gall PAVS eich helpu i ddod o hyd i rywbeth sy’n addas i chi. Bydd Swyddog Gwirfoddoli yn trefnu apwyntiad i gael sgwrs dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, er mwyn dod i wybod beth allai fod gennych ddiddordeb ynddo. Byddant yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i rywbeth sy’n cyfateb i’r hyn yr hoffech ei wneud, a gallant eich helpu i wneud cais am y rôl.
Mae rolau ar gael mewn nifer o feysydd gwahanol gan gynnwys gweithio mewn siopau elusennol, yn yr awyr agored, gydag anifeiliaid, gyda phobl ifanc, gyda phobl hŷn a llawer mwy.
Gall PAVS hyd yn oed eich helpu i gael tystysgrif am nifer yr oriau rydych yn gwirfoddoli. Gall gwirfoddolwyr gael tystysgrif am 50, 100, neu 200 awr o wirfoddoli.