Mae Fferm Ofal Clynfyw yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sy’n cefnogi pobl anabl a phobl agored i niwed trwy ddefnyddio nifer o brosiectau ac offerynnau ystyrlon ar gyfer dysgu, ymgysylltu, cyfrannu a chael hwyl.
Yn cael ei gynnal chwe diwrnod yr wythnos, mae gennym glwb Drama, Clwb Pêl-droed Dydd Gwener, prosiectau Garddwriaeth a thyfu, gwneud golosg, gwasgu sudd o afalau, gwneud cawl, celf a chrefft, Gwobrau John Muir, nofio, clybiau pêl-droed a chwaraeon eraill, a chyfres o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn.
Rydym yn datblygu ein gwaith yn y Gwasanaethau Iechyd sy’n seiliedig ar Natur, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio natur a chefn gwlad ar gyfer dysgu, cael hwyl, adferiad, ac iechyd a lles cyffredinol.
Rydym yn cynnig cyrsiau ASDAN achrededig mewn amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys cyflwyniadau i arddwriaeth, cynnal a chadw beiciau, Sgiliau Byw Annibynnol, crefft, perthnasoedd, hyfforddiant ar deithio, trin arian, hylendid personol, rhifedd a llythrennedd, chwaraeon, byw yn y gwyllt …
Os yw’r hyn sydd gennym i’w gynnig yn apelio atoch chi, cysylltwch â ni. Diolch yn fawr!