Mae Cymunedau am Waith yn rhaglen wirfoddol sy’n mynd i’r afael a thlodi ac yn helpu oedolion i ddod o hyd i swyddi.
Y grwp targed, ar gyfer y cam cyntaf, yw pobl sy’n byw mewn clwstwr Cymunedau tn Gyntaf, sydd dros 25 oed, ac sydd:
- Yn meddu ar sgiliau isel neu ddim sgiliau
- Yn meddu ar gyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar waith
- Yn meddu ar gyfrifoldebau gofal plant
- Yn dod o gartrefi sy’n ddi-waith
- Yn perthyn i grwp pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
Bydd y cymorth yn cynnwys y canlynol:
- Cymorth ymgynghorol cymunedol
- Mentoriaid
- Cyllid o ran rhwystrau i hyfforddiant er mwyn helpu pobl i gael hyfforddiant neu ddod o hyd i waith
- Cronfa Arloesedd i gefnogi ffyrdd newydd o weithio
Mae hefyd yn cefnogi pobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg, ac yn anelu at leihau’r niferoedd.
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad:
19 Yr Hen Bont
Hwlffordd
SA61 2EZ
Ffon: 01437 776437