Menu

Ynghylch y Tîm Hawdd ei Deall

Ynghylch y Tîm Hawdd ei Deall

Aelodau Presennol

Fy enw i yw Dan

Fi yw’r arweinydd tîm.

Rwy’n helpu’r tîm i benderfynu beth i’w wneud. Rydw i yno i helpu pan fydd angen.

Rwy’n mwynhau fy rôl, mae’n helpu i fagu fy hyder ac mae’n rhoi boddhad mawr i mi.

Fy enw i yw Sian

Rwy’n mwynhau gweithio gyda thîm y wefan anableddau dysgu.

Rwy’n mwynhau gweithio ar y wefan gan fy mod yn meddwl am syniadau newydd.

Rydw i hefyd yn gweithio yng Nghyngor Sir Penfro yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

Gallaf sganio dogfennau, eu cadw ar CareFirst a rhwygo’r dogfennau gwreiddiol.

Fy enw i yw Mark

Rwy’n mwynhau gweithio ar y wefan anableddau dysgu gan fod hynny’n fy nghadw’n hyderus ac yn annibynnol.

Rwy’n hoffi darllen llyfrau.

Rwy’n hoffi mynd i’r sinema.

Cyn-Aelodau

Dim llun ar gael

Fy enw i yw Jordan

Rwy’n gweithio ar dîm y wefan anableddau dysgu.

Rwy’n mwynhau gweithio ar y wefan gan fod hynny’n fy ngalluogi i feddwl am ffyrdd creadigol o ddylunio’r wefan.

Fy enw i yw Matthew

Rwy’n mwynhau gwneud ffotograffiaeth.

Rydw i hefyd yn hoffi drymio.

Rwy’n mwynhau gweithio ar y wefan anableddau dysgu gan fod hynny’n rhoi sgiliau ychwanegol i mi mewn bywyd.

Internet Explorer users must scroll down on the website