Menu

Cyflogaeth

Cyflogaeth i bobl anabl neu bobl â chyflyrau iechyd

Mae pobl anabl neu bobl â chyflyrau iechyd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio eisiau gallu dod o hyd i swyddi go iawn gyda thâl.

Mae cymorth ar gael gan Gynghorydd Cyflogaeth Anabledd y Ganolfan Byd Gwaith a fydd yn cynorthwyo pobl sydd eisiau gweithio ond sydd â chyflwr iechyd neu anabledd sy’n effeithio ar yr hyn y maen nhw’n gallu ei wneud. Christine Bergstrom yw Cynghorydd Cyflogaeth Anabledd Sir Benfro.

Yn ogystal, darperir cymorth gan nifer o sefydliadau cymorth sy’n cael eu hariannu gan yr awdurdod lleol a grantiau. Rhestrir y sefydliadau sy’n cefnogi pobl ag anableddau isod:

  • Cymunedau am Waith
  • Profiad am Ddiwydiant
  • Diwydiannau Norman
  • Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)
  • Coleg Sir Benfro – Cadw Fynd
  • FRAME Sir Benfro
  • Ymddiriedolaeth Shaw – Dewis Gwaith
  • Gweithffyrdd+

Cyflogwyr sydd ag hyder mewn pobl anabl

Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gynllun sy’n nodi cyflogwyr sydd ag hyder mewn pobl anabl.

Gellir adnabod y cyflogwyr hyn gan y symbol canlynol.

Gwasanaethau sy’n cefnogi cyflogaeth i bobl anabl

Cymunedau am Waith

Rhaglen wirfoddol sy’n helpu oedolion mewn codau post Cymunedau’n Gyntaf i ddod o hyd i waith yw Cymunedau am Waith.

Profiad am Ddiwydiant

Mae Profiad am Ddiwydiant yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 18 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant ac yn darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu sgiliau, magu hyder ym maes rheoli swyddfa, adeiladu a chynnal a chadw eiddo. 

Cadw Fynd

Ydych chi o dan 25 oed? Ydych chi allan o waith ar hyn o bryd? Oes angen cymorth arnoch i benderfynu beth i’w wneud nesaf? Mae prosiect Cadw Fynd yma i’ch helpu chi ar ddechrau eich gyrfa.

Diwydiannau Norman

Mae Diwydiannau Norman yn arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu dodrefn pren – o gadeiriau i fyrddau torri bara.

PaCE

Mae Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) yn darparu cymorth gofal plant i rieni sy’n gwirfoddoli neu fynychu profiad gwaith er mwyn datblygu sgiliau a dod o hyd i waith.

FRAME Sir Benfro

Profiad gwaith ymarferol gyda chymorth mewn amgylchedd busnes go iawn, gan gynnwys arweiniad addas a hyfforddiant achrededig mewnol i helpu pobl i ddatblygu agwedd dda tuag at waith a sgiliau sy’n berthnasol i’r farchnad waith leol.

Gweithffyrdd+

Mae Gweithffyrdd+ yn darparu cymorth i bobl ddod o hyd i waith, gan gynnwys mentora 1:1, hyfforddiant, profiad gwaith, a help i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth.

Internet Explorer users must scroll down on the website