Ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2019 11am-3pm, bydd Ffair Nadolig Pentref Angle yn cynnal digwyddiad i godi arian ar gyfer Parc Cymunedol Angle. Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad hwn.
Cynhelir Ffair Grefftau Nadolig Saundersfoot yn Neuadd Regency ar 13 a 14 Rhagfyr 2019 10:00am-4:00pm. Mae mynediad am ddim ar y ddau ddiwrnod i’r digwyddiad hwn.
Ddydd Sadwrn 23 Tachwedd 2019, mae Canolfan Siopa Glan-yr-afon yn troi’r goleuadau Nadolig ymlaen gydag adloniant byw, stondinau bwyd, gweithgareddau i bawb ac arddangosfa tân gwyllt.
Ar 31 Hydref 2019, mae’r Caffi Man Cwrdd yn cynnal digwyddiad Calan Gaeaf gydachacennau bach bwganllyd blasus, yn ogystal â gwydraid o waed gwrachod (sudd oren a llugaeron) am ddim
Sylwer: Mae’n rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.
Mae’r Orymdaith Llusernau ysblennydd a phoblogaidd yn dychwelyd i Hwlffordd Ddydd Iau 31 Hydref 2019 am 6:30pm. Mae Over The Moon Lantern and Light Event yn ddathliad o’r gofod ac awyr y nos; er mwyn nodi 50 mlynedd ers i ddyn lanio ar y lleuad am y tro cyntaf ac mae’n dychmygu bywyd y tu hwnt i’r ddaear.
Y mis Hydref hwn, rydym yn ymuno ag Awr Awtistiaeth y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Rhwng 9-10am ddydd Sadwrn 5 a 12 Hydref 2019, byddwn yn pylu’r goleuadau ac yn gostwng y sŵn ym mhob un o’n siopau i greu awyrgylch tawelach i’n cwsmeriaid awtistig.
Yr Hydref hwn, mae Theatr y Torch wedi cyhoeddi cyfres fer o ffilmiau clasurol i’w dangos ar y sgrîn fawr. Dangosir y ffilmiau hyn dan faner “O’r Llwyfan i’r Sgrin”, gan gynnig cyfle i fynychwyr y sinema wylio’r clasuron hyn.
Mae Theatr y Torch yn dangos Ffilmiau ac Atgofion newydd a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion pobl hŷn â dementia a’u teuluoedd, eu ffrindiau, a’u gofalwyr.
Dydd Mawrth 22 Hydref 2019 “Clamity Jane” 2:00pm
Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019 “Singin’ in the Rain” 2:00pm
Dydd Mawrth 17 Rhagfyr 2019 “It’s a Wonderful Life” 2:00pm
Hoffai Cyngor Sir Penfro sefydlu hwb a model siarad ar gyfer darparu Cyfleoedd Dydd. Gallwch gael gwybodaeth am Gyfleoedd Dydd yn Sir Benfro ar hafan y wefan hon.
Bydd Gŵyl Fwyd Stryd Aberdaugleddau yn cyrraedd Glannau Aberdaugleddau ar gyfer penwythnos hyfryd o fwyd ffres, bendigedig, a diodydd blasus, ddydd Sadwrn 17 – ddydd Sul Awst 2019!
Mae Insport yn fenter gan Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n cydnabod ymrwymiad i gynnwys pobl anabl mewn chwaraeon.Bydd y gyfres Insport yn cynnig dewis eang o chwaraeon ar gyfer pob nam, corfforol, synhwyraidd a dysgu.
Dewch iddathlu Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol adarganfod mwy am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddol cyffrous yn Ffair Wirfoddoli Sir Benfro.
Cynhelir Gŵyl Harbwr Saundersfoot sy’n nodi diwedd Wythnos Bysgod arobryn Sir Benfro, ar 30 Mehefin 2019.
Mae’r ŵyl yn gobeithio addysgu a hybsybu’r cyhoedd am nodweddion cadarnhaol y môr a’rarfordir ysblennydd trwy weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y teulu.
Cynhelir Haverfoodwest ddydd Sadwrn 4 Mai 2019 ac mae’r pwyllgor yn gweithio ar fformat newydd a fydd yn newid stwythur yr ŵyl fwyd leol boblogaidd ac yn dod â’r digwyddiad i strydoedd canol tref Hwlffordd.
Cynhelir Ffair Swyddi Sir Benfro yn y Pafiliwn, Maes Sioe Llwynhelyg, Hwlffordd ddydd Mercher 30 Ionawr! Dyma eich cyfle i weld busnesau llwyddiannus Sir Benfro yn arddangos y swyddi sydd ar gael ganddynt.