Bydd yr orymdaith llusernau boblogaidd yn dychwelyd i Hwlffordd ddydd Iau 31 Hydref am 6.30pm. Mae Over The Moon Lantern and Light Event yn ddathliad o’r gofod a’r awyr gyda’r nos; er mwyn nodi 50 mlynedd ers i ddyn lanio ar y lleuad am y tro cyntaf, yn ogystal â dychmygu bywyd y tu hwnt i’r ddaear.
Ym mis Hydref eleni, byddwn yn ymuno ag Awr Awtistiaeth y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Rhwng 9-10am ar Ddydd Sadwrn 5 a 12 Hydref, byddwn yn pylu’r goleuadau ac yn gostwng y sŵn ym mhob un o’n siopau i greu awyrgylch tawelach i’n cwsmeriaid awtistig.
Dros yr hydref, bydd Theatr y Torch yn cynnal tymor byr o ddangos hen glasuron ar y sgrin fawr. Dangosir y ffilmiau hyn dan faner “O’r Llwyfan i’r Sgrîn”, gan gynnig cyfle i bawb wylio’r clasuron yma.
Mae Pobl yn Gyntaf Sir Benfro yn cynnal ras hwyl ar gyfer elusen ym Mharc Thema Oakwood ar 13 Hydref.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y digwyddiad hwn
Ymgynghoriad ar Drawsnewid Cyfleoedd Dydd
Hoffai Cyngor Sir Penfro sefydlu model prif ganolfan a lloerennau i ddarparu Cyfleoedd Dydd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gyfleoedd dydd yn Sir Benfro ar dudalen hafan y wefan hon.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y digwyddiad hwn
Rhwng dydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 Awst 2019, bydd Gŵyl Bwyd Stryd Aberdaugleddau yn dod i Lannau Aberdaugleddau am benwythnos gwych o fwyd ffres bendigedig, a diodydd blasus hefyd!
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y digwyddiad hwn
Mae Insport yn fenter Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n cydnabod ymrwymiad i gynnwys pobl anabl mewn chwaraeon, a bydd y gyfres Insport yn cynnig dewis eang o chwaraeon ar gyfer pobl sydd â namau dysgu, corfforol a synhwyraidd.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y digwyddiad hwn
Ffair Gwirfoddoli Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) 2019
Dewch i ddathlu Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr gyda PAVS trwy ddod i gael gwybod am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli cyffrous yn Ffair Gwirfoddoli Sir Benfro.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y digwyddiad hwn
Cynhelir Gŵyl Fwyd Hwlffordd ar ddydd Sadwrn 4 Mai 2019 ac mae’r Pwyllgor wrthi’n gweithio ar fformat newydd a fydd yn dod â’r ŵyl fwyd leol boblogaidd i strydoedd a chanol tref Hwlffordd.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y digwyddiad hwn
Cynhelir Ffair Swyddi Sir Benfro yn y Pafiliwn, Maes Sioe Llwynhelyg, Hwlffordd ddydd Mercher 30 Ionawr! Dyma eich cyfle i weld busnesau llwyddiannus Sir Benfro yn arddangos y swyddi sydd ar gael ganddynt.
Bydd Canolfan Siopa Glan yr Afon yn cynnau goleuadau’r Nadolig ar ddydd Sadwrn 23 Tachwedd. Bydd adloniant byw, stondinau bwyd, gweithgareddau i bawb a thân gwyllt.
Mae pob ffilm yn dechrau am 7.30pm. Croeso cynnes i bawb. £6.50 y ffilm neu £42 am i wylio POB ffilm. E-bostiwch fishguardfilmsociety@yahoo.co.uk am wybodaeth.
Ar 31 Hydref, bydd y Caffi Man Cwrdd yn cynnal digwyddiad Calan Gaeaf a phrynhawn o gacennau hyfryd ond llawn ysbryd, ynghyd â gwydraid o waed gwrachod (sudd oren a llugaeron).
Sylwch: Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.